Mae Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu (ACEDd) yn ddull o ddatblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol yn yr ysgol gyfan. Nod y dull hwn yw cynnwys holl aelodau’r ysgol a phob agwedd ar fywyd ysgol.
Mae sgiliau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol yn sail i bron pob agwedd ar fywyd ysgol, bywyd cartref a bywyd cymunedol, gan gynnwys dysgu effeithiol a chyd-dynnu â phobl eraill. Maen nhw’n hanfodol i wella ysgolion.
Pan fydd sgiliau da gan ddisgyblion yn y meysydd hyn, a chânt eu haddysgu o fewn amgylchedd sy’n gefnogol i iechyd a lles emosiynol, caiff disgyblion eu cymell a’u galluogi i:
• fod yn ddysgwyr effeithiol a llwyddiannus
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch
• delio â gwrthdaro a’i ddatrys mewn modd effeithiol a theg
• datrys problemau gydag eraill neu ar eu pennau eu hunain
• rheoli teimladau cryf megis rhwystredigaeth, dicter a phryder
• gallu hyrwyddo cyflwr tawel ac optimistaidd sy’n hyrwyddo’r gallu i gyflawni nodau
• dod dros rwystrau a dyfalbarhau yn wyneb anawsterau
• gweithio a chwarae’n gydweithredol
• cystadlu’n deg, ac ennill a cholli gydag urddas a pharch at gystadleuwyr
• cydnabod a sefyll dros eu hawliau nhw a hawliau pobl eraill
• deall a gwerthfawrogi’r hyn sy’n wahanol ac yn debyg rhwng pobl, gan barchu hawl pob eraill i gael credoau a gwerthoedd sy’n wahanol i’w rhai nhw eu hunain.
Themau/Themes
Dilynir 7 thema dros ddwy flynedd. Y themau yw:
• Thema 1 – Dechrau newydd
• Thema 2 – Cyd-dynnu a chweryla
• Thema 3 – Dweud na wrth fwlio
• Thema 4 – Mynd amdani!
• Thema 5 – Hoffi fi fy hun
• Thema 6 – Perthnasoedd
• Thema 7 – Newidiadau