Amgylched

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i ddatblygu tir ein hysgol ac yn ffodus i gael cyfleusterau awyr agored rhagorol i hyrwyddo ein prosiectau awyr agored a dysgu’r plant. Rydym wedi derbyn y statws Eco Platinwm am ein hymdrechion. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod ein plant yn cael eu hannog i ymfalchïo yn eu hamgylchedd, i ailgylchu ac i ddatblygu’n ddinasyddion byd-eang. Mae ein tŷ gwydr wedi’i wneud o boteli plastig, sydd wedi’i adeiladu ar dir yr ysgol, yn galluogi ein disgyblion i fwynhau profiad uniongyrchol o fyd natur n ogystal â rhoi cyfle iddynt dyfu a chynaeafu eu ffrwythau a’u llysiau ffres eu hunain.

* * * * * * * *

Cyfranodd rhieni/gwarcheidwaid/teulu a chyfeillion yr ysgol am  hen ddillad, bagiau, teganau, gwregysau ac ati ar gyfer y cynllun ‘Bag2School’.  Gwnaethom dderbyn siec o £147.00

Gwefannau o ddiddordeb:

The 3 R’s –Reduce, Recycle, Re-use, 

https://kids.niehs.nih.gov/topics/reduce/index.htm

http://www.recycling-guide.org.uk/rrr.html