Partneriaethau

Trosglwyddo i Ysgol Uwchradd

Fel arfer bydd plant yn trosglwyddo i naill ai Ysgol Bro Teifi neu Ysgol Gyfun Emlyn ac mae cyswllt agos rhwng ein hysgol ni a’r ddwy ysgol uwchradd yma

Bydd rhieni plant Blwyddyn 6 yn derbyn gwybodaeth oddi wrth adran addysg Sir Gaerfyrddin ym mis Rhagfyr cyn trosglwyddo a bydd hawl gan rieni fynegi cais ar gyfer yr ysgol uwchradd o’u dewis trwy lenwi’r ffurflen briodol.

Ysgol Bro Teifi
Llandysul
Ceredigion
SA44 4JL
Rhif Ffôn: 01559 362503
Ebost: swyddfa@broteifi.ceredigion.sch.uk
Ysgol Gyfun Emlyn
Castell Newydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9LN
Rhif Ffôn: 01239 710447
E-bost: admin@emlyn.carms.sch.uk

Busnesau Lleol

Mae gan Ysgol Penboyr bartneriaeth weithio ardderchog gyda nifer o fusnesau lleol.  Mae rhain yn cwmpasu  amrywiaeth o gyfleoedd dysgu trawscwricwlaidd sy’n cynnig profiadau amrhisiadwy ar gyfer llwyddiant.

Mae cael mynediad i arbenigedd eang yn ysbrydoli’r disgyblion ac yn herio eu sgiliau, a’u sgiliau digidol sy’n cyfoethogi eu profiadau addysgol.

Rydym yn ymhyfrydu bod gennym bartneriaeth agos gyda busnesau lleol megis Stiwdio Box, Angelsoft, Meinir Mathias, ein hartist preswyl, Amgueddfa Wlân Cymru, ayb.

Er mwyn darganfod mwy am y busnesau lleol, cliciwch ar y dolenni isod i ymweld â’u gwefannau:-


Stiwdiobox http://www.stiwdiobox.co.uk
Stiwdio Box – Prynom ein gorsaf radio gan Marc Griffiths, Cymru FM. Rydym yn lanlwytho ein rhaglenni i Stiwdio Box i’w darlledu ar Gymru FM. Mae Marc wastad ar gael i’n helpu.


Angelsoft http://www.angelsoft.co.uk
Gwasanaeth ymgynghorol sy’n cynnig atebion a gwasanaethau T.G. i ysgolion. Mae Angelsoft yn darparu adnoddau sy’n ateb gofynion y llinyn darganfod a dadansoddi yn y cwricwlwm T.G. Mae’r tîm ar gael i roi help a chynnig gymorth.


Meinir Mathias http://meinirmathias.co.uk
Meinir yw ein hartist preswyl. Daw yn aml i’r ysgol i weithio ar brosiectau newydd gyda’r disgyblion.


http://www.museumwales.ac.uk/wool/
Rydym yn ffodus iawn ein bod yn agos i Amgueddfa Wlân Cymru a chawn ein gwahodd yn rheolaidd i gymryd mewn gweithgareddau a mentrau yn yr amgueddfa.

Partneriaethau Cymunedol

Mae partneriaethau â’r gymuned yn hanfodol i ethos ein hysgol ni. Mae ein cysylltiadau â’r gymuned yn rhan annatod o fywyd yn Ysgol Penboyr. Rydyn ni’n gwerthfawrogi pa mor bwysig yw meithrin cysylltiadau cryf rhwng yr ysgol â’r gymuned. Mae gweithio gyda gwirfoddolwyr lleol yn bwysig i wella dysgu a phrofiadau disgyblion, ac mae hefyd yn cefnogi ein gwaith i gyflwyno’r cwricwlwm.

Mae gennym wirfoddolwyr o’r gymuned sy’n cefnogi’r ysgol drwy ddod i wrando ar ddisgyblion yn darllen.

Rydyn ni’n annog aelodau y gymuned i gymryd rhan ym mywyd yr ysgol drwy eu gwahodd i droi eu llaw at weithgareddau’r cwricwlwm, ac i gynorthwyo mewn digwyddiadau i godi arian a chyngherddau a gwasanaethau arbennig. Fel ysgol eglwys, rydyn ni’n ymfalchïo yn y gwasanaethau a gynhelir yn yr eglwys i’r gymuned o dan arweiniad ein disgyblion ni. Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaeth y Cristingl, y Pasg, y Cynhaeaf a’r Nadolig. Mae’r arian rydyn ni’n ei gasglu wrth gynnal ein gwasanaethau yn cael ei roi i elusennau lleol ac achosion da fel Plant Dewi neu’r Ambiwlans Awyr. Y llynedd, cafodd y casgliad ei ddefnyddio i helpu i sefydlu’r Ysgol Sul.

Rydyn ni’n rhoi cyfle i bob disgybl gymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol. Mae’r disgyblion yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau yn y pentref, o ganu yn lansiad y gymdeithas hanes i ddiddanu pobl yn y cartref i’r henoed a chanu mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn ddiweddar i ddadorchuddio plac yn y pentref. Rydyn ni’n teimlo bod y gweithgareddau hyn yn y gymuned yn sylfaenol bwysig i feithrin y cysylltiad rhwng y gymuned a’r ysgol ac maen nhw’n rhoi profiadau eang a chyffrous i’r disgyblion. 

Mae ymwelwyr o’r gymuned ac o’r ardal ehangach yn cael eu gwahodd i’r ysgol i siarad am eu profiadau. Mae cysylltiad rhwng yr ymweliadau hyn â’n pynciau cwricwlwm. Yn ogystal ag ymweliadau gan yr heddlu a’r gwasanaeth tân ac achub lleol, mae ein clwb garddio lleol hefyd yn ein helpu ni gyda gardd yr ysgol ac rydyn ni hefyd wedi cael help i adeiladu ein tŷ gwydr sydd wedi’i ailgylchu.

Rydyn ni mor falch o’r cysylltiadau cryf sydd rhyngon ni â’r gymuned a hoffem feddwl am y gymuned fel rhan o deulu’r ysgol. Fel y dywed ein datganiad cenhadaeth:

‘Yn un teulu dysgwn gyda’n gilydd’