Class Dojo

Ap rheoli dosbarth syml a diogel, sy’n helpu athrawon ac yn annog disgyblion i feithrin diwylliant positif yn yr ystafell ddosbarth, yw Class Dojo!

Drwy roi pwyntiau am gyflawni tasgau dysgu amrywiol neu am roi help llaw, mae Class Dojo yn annog y disgyblion i feithrin sgiliau pwysig, fel gweithio’n galed a chymryd rhan.

Mae’r disgyblion wrth eu boddau pan fyddan nhw’n derbyn pwyntiau neu Class Dojo am yr hyn maen nhw’n ei gyflawni ac mae’r unigolion sydd â’r pwyntiau uchaf ar ddiwedd y tymor yn cael eu gwobrwyo! Nid yw’r disgyblion yn hapus o gwbl pan fydd pwynt yn cael ei dynnu oddi arnyn nhw ac maen nhw’n gweithio’n galed iawn i osgoi hynny!