Cysylltiadau a India
Mae clwstwr o bedwar ysgolion yn Sir Gâr wedi eu cysylltu â ysgol Cuttack yn India trwy brosiect ‘Connecting Classrooms’ gyda Cyngor Prydeinig
Mae Cuttack yn un o’r dinasoedd hynaf yn Orissa.
Mae wedi ei leoli ar ochr ddwyreiniol talaith Indiaidd Orissa tua 30k o Bhubaneswar. Lleolir Cuttack ar y delta a ffurfir gan afonydd Mahanadi a Kathjun, ac mae ei leoliad strategol yn lwyfan wasanaethu fel prif sylfaen gweithgareddau masnachol.
Mae Cuttack yn adnabyddus am y nifer helaeth o grefftau o waith llaw e.e. amrywiaeth eang o ddefnyddiau Ikat ac ‘applique’. Yn ogystal â hyn, mae Cuttack yn enwog ar draws India am gynhyrchu darnau ‘filigree’, sef gemwaith arian rhagorol. Hefyd mae yna nifer o lefydd arbennig i ddenu ymwelwyr, er enghraifft y Caer Barabati, Teml Chandi a Kadam Rassol Dargah.
Ein cyfeillion o India yn ymweld â’r Ysgol
Fel rhan o’r ‘Partneriaeth Ryngwladol Ysgolion’ daeth grŵp o athrawon India i ymweld â Ysgol Penboyr. Cafodd yr ymwelwyr gyfle gwych i flasu diwylliant traddodiadol Cymru, gan gynnwys dawnsio gwerin a chanu traddodiadol Cymraeg..
Chwifiodd holl blant yr ysgol faneri wrth groesawi’r
partneriaid o Cuttack i’r ysgol am y tro cyntaf
Gwasanaeth gyda ein partneriaid
Cymerodd y plant rhan mewn gwasanaeth arbennig ar gyfer
yr ymwelwyr.
Noson Gawl Masnach Deg
Trefnwyd noson gawl masnach deg gyda adloniant gyda Dawnswyr Talog.