Grant Datblygu Disgyblion

Datganiad Grant Datblygu Disgyblion Ysgol Penboyr

Dyrennir y Grant Amddifadedd Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC).

Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim neu sy’n LAC.

Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn:

1.  nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion

2.  cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau

3.  monitro a gwerthuso effaith adnoddau

Yn 2025-26 rhoddir dyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £12,650 i Ysgol Penboyr.

Yn Ysgol Penboyr mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a’i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.

Byddwn yn defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:

  • ddarparu rhaglenni ymyrraeth a chymorth y profwyd eu bod yn cael yr effaith fwyaf a’u bod yn gynaliadwy.