Arweinwyr Digidol

Arweinwyr Digidol

Mae tîm o bump arweinydd digidol o flynyddoedd 5 a 6 wedi cael eu hethol gan eu cyd-ddisgyblion yn Ysgol Penboyr i helpu i hyrwyddo TGCh a’i ddefnyddio’n effeithiol drwy rannu eu sgiliau a’u gwybodaeth i wella pob agwedd ar dechnoleg o amgylch yr ysgol.
Er mwyn datblygu eu sgiliau arwain a gweithio fel tîm, bydd ein harweinwyr digidol brwdfrydig yn mynd i gyfarfodydd ac yn cael sesiynau hyfforddi i’w helpu gyda’u rôl. Bydd hyn yn darparu ffynhonnell werthfawr o wybodaeth i’r staff yn ogystal â’r disgyblion.
Er mwyn parhau i ddatblygu pob agwedd ar y dechnoleg newydd sy’n ymddangos, bydd yr arweinwyr digidol yn gyfrifol am elfennau penodol a byddan nhw’n rhannu eu harbenigedd a’u sgiliau drwy:
ymgyfarwyddo â’r rhaglenni a’r offer
rhoi trefniadau e-ddiogelwch ar waith
cynnig cyfleoedd allgyrsiol drwy arwain Clwb TGCh i ddisgyblion yn ystod amser cinio er mwyn iddyn nhw ddysgu mwy
bod yn gyfrifol am eu hybysfwrdd TGCh eu hunain er mwyn arddangos digwyddiadau a gweithgareddau sydd ar fin cael eu cynnal
cydweithio’n effeithiol â staff a disgyblion eraill er mwyn helpu gyda thasgau digidol
dangos y ffordd i’w cyfoedion drwy ymweld ag ystafelloedd dosbarth a helpu grwpiau i ddefnyddio adnoddau digidol
Mae technoleg ddigidol yn datblygu’n gyflym ac rydyn ni yn Ysgol Penboyr yn teimlo, gyda help ein harweinwyr digidol, y gallwn ni gynyddu’r defnydd o TGCh a’i hyrwyddo. Bydd hyn o gymorth i’r ysgol ddatblygu syniadau arloesol.