E-Diogelwch

Mae e-ddiogelwch yn flaenoriaeth yn Ysgol Penboyr. Rydym ni’n credo bod dysgu i gadw’n ddiogel ar-lein yn bwysig iawn i ddiogelu ac addysgu disgyblion wrth iddyn nhw ddefnyddio technoleg i sicrhau defnydd cadarnhaol a diogel, nid yn unig ar y rhyngrwyd ond gyda technolegau cyfathrebu eraill yn yr ysgol a thu allan i’r ysgol.
Mae technoleg yn gwella dysgu a gyda datblygiad cyflym technolegau newydd, rydyn ni ym Mhenboyr yn addysgu disgyblion a’u gwneud yn ymwybodol o’r risgiau a’r cyfrifoldebau o fod yn ddiogel.
Mae’r rhyngrwyd yn adnodd pwysig ac mae’n cael ei defnyddio gan bob disgybl yn Ysgol Penboyr. Rydyn ni’n defnyddio system hidlo i atal disgyblion rhag defnyddio safleoedd anaddas. Rydyn yn aml yn cael ymweliad gan P.C. Cath, ein heddwas lleol, sy’n dod i siarad â’r plant am beryglon ar-lein. Hefyd rydym yn cael pobl i siarad a dangos ffilmiau yn yr ysgol trwy’r amser i godi ymwybyddiaeth am beryglon ar-lein. Mae ein disgyblion yn cael eu goruchwylio bob amser wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd yn yr ysgol.
Mae’r disgyblion yn dysgu i beidio â chyhoeddi eu manylion a gwybodaeth personol ar-lein ac maen nhw’n cael eu hannog i ddefnyddio ‘enwau seiber’ dienw os bydd angen; peidio â lanlwytho ffotograffau na fideos ohonyn nhw eu hunain neu bobl eraill, ond creu afatarau ohonyn nhw eu hunain yn lle hynny. Eglurir peryglon a chanlyniadau clicio’n ddamweiniol ar unrhyw hysbyseb neu gemau a chael mynediad i safleoedd nad ydyn nhw’n gyfarwydd â nhw, a hefyd peidio byth â chyfarfod â rhywun maen nhw newydd gyfarfod ar-lein! Gwneir disgyblion yn ymwybodol o fwlio seiber ac anogir disgyblion i ddweud wrth oedolyn maen nhw’n ymddiried ynddo os digwydd rhywbeth fel hynny.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y disgyblion i gyd yn Ysgol Penboyr yn cadw’n ddiogel ar-lein a’u bod yn rheoli eu profiadau ar-lein yn effeithiol yn wyneb yr holl heriau e-ddiogelwch a all godi.

E-Safety Links