Ysgolion ECO

ECO Ysgolion

Beth yw ECO Sgolion?

Menter ryngwladol yw’r rhaglen Eco-Sgolion sy’n annog disgyblion i gymryd rhan mewn materion amgylcheddol a datblygu cynaliadwy. Mae’n cynnig system hynod strwythurol ar gyfer rheolaeth amgylcheddol o ysgolion.
Mae’r rhaglen yn adnodd dysgu ac mae’r meysydd pwnc yn cynnwys Ysbwriel, Lleihau Gwastraff, Cludiant, Byw’n Iach, Ynni, Dŵr, Tir yr Ysgol a Dinasyddiaeth Fyd-eang.
Disgyblion sy’n cymryd y prif rannau mewn cymryd penderfyniadau a chyfranogi er mwyn lleihau effaith amgylcheddol eu hysgol. Fel hyn, mae Eco-Sgolion yn ymestyn y tu hwnt i’r dosbarth ac yn datblygu agweddau o ddinasyddiaeth gyfrifol, gartref ac yn y gymuned ehangach.
Mae Baner Werdd Ryngwladol Eco-Sgolion, a roddir i ysgolion sydd wedi llwyddo’n dda gyda’u rhaglen, yn eco-label cydnabyddedig sy’n cael ei barchu am berfformio mewn Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy. Gweithgaredd tymor hir yw’r rhaglen Eco-Sgolion gyda’r wobr yn cael ei hail asesu a’u hadnewyddu bob dwy flynedd..

Beth yw Cyngor ECO?

Cyngor Eco yw grŵp o fyfyrwyr sy’n cael eu hethol i gynrychioli barn yr holl ddisgyblion ac i wella perfformiad eco’r ysgol. Criw frwdfrydig sydd i’w gael yma sy’n llawn syniadau i gael y plant ac athrawon i ddilyn bywyd iach a chynaliadwy.
Ein nod yn Ysgol Penboyr yw gwneud yr ysgol yn fwy eco-gyfeillgar. Mae aelodau’r cyngor wedi eu hethol i ystyried yr amgylchedd a chynnal a chadw yr ysgol. Mae’n ddyletswydd ar aelodau i helpu ac annog pobl eraill i fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau ar y dudalen we.

Beth sydd yn digwydd?

Mae’r Cyngor Eco yn gwneud nifer o bethau:
Mae’r cyngor ysgol yn cyfarfod, fel arfer gydag athro yn bresennol – i drafod a datrys problemau. Gall y rhain gynnwys lleihau y defnydd o ynni yn yr ystafell ddosbarth ac yn y blaen. Bydd aelodau o’r Cyngor Eco yn gyfrifol am gynnal y syniadau sydd wedi eu cytuno i wella perfformiad eco yr ysgol.