Ein Hysgol Ni

Ysgol Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru ym mhentref gwledig ‘Felindre’ yw’r ysgol ym mhlwyf Penboyr o dan reolaeth Awdurdod Sir Gâr. Mae’r disgyblion yn dod yn bennaf o ddalgylch eang yn cwmpasu sawl pentref lleol – Cwmpengraig, Waungilwen, Cwmhiraeth, Penboyr, Drefelin a rhan o Bentrecagal a’r ardal wledig o amgylch. Daw ychydig o’r plant o du allan i’r dalgylch, a hynny am resymau amrywiol.

Mae 83 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol. Agorwyd yr ysgol yn 1866. Yn ôl ‘Trust Deed’ yr ysgol sy’n dyddio’n ôl i 1869, bwriad sefydlu’r ysgol yn y lle cyntaf oedd i: ‘promoting the Education of the Poor in the principles of the Established Church..’ ac ymfalchïwn fod yr ysgol yn parhau i wneud hynny a bod ein rhifau yn ogystal â safon addysg Eglwysig wedi cynyddu a thyfu ers y dyddiau cynnar hynny. Adeiladwyd estyniad newydd i’r ysgol a agorwyd yn 1991.

Mae pedwar dosbarth yn yr ysgol: dosbarth Dolgoch, Dolwerdd a Cilwendeg.

Cynigir addysg o safon uchel trwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwynir Saesneg ym mlwyddyn 3. Mae hyn yn sicrhau fod y disgyblion yn hyderus ac yn hollol ddwy-ieithog ac yn hollol barod ar gyfer trosglwyddo i’r ysgolion Uwchradd.