Hanes Drefach

Mae Drefach ar gydiad y tair afon fach cyflym eu llif, sef Nant Bargod, Nant Esgair a Nant Bran. Yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif roedd y pentref yn ganolfan diwydiant gwlân llewyrchus ac fe’i gelwid yn ‘Huddersfield Cymru’.
Ychydig o ddiwydiannau sydd yn Nrefach Felindre heddiw. Mae’r ffatrïoedd yn sefyll fel cofgolofnau i’r gorffennol ac yn cael eu defnyddio at ddibenion eraill. Agorwyd amgueddfa’r diwydiant gwlân, yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, yn 1976 ac mae wedi ei lleoli yn hen Ffatri Cambrian.
Roedd Capel Pen-rhiw yn wreiddiol yn Nrefach ac ailgodwyd ef yn yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan yn 1956. Mae e’n gapel cysegredig o hyd ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer addoli yn rheolaidd. Agorwyd Capel Pen-rhiw yn 1777 ac mae’r bensaerniaeth yn nodweddiadol o gapeli anghydffurfiol Cymru.
Roedd Griffith Jones yn ficer  Llanddowror, Sir Gaerfyrddin a chofir amdano fel y person a sefydlodd ysgolion cylchynnol yn yr eglwysi yng Nghymru. Ganwyd ef ym Mhant-yr-efail ym mhlwyf Penboyr.