Kindles
Mae e-lyfrau Kindle yn llwyddiant mawr yn Ysgol Penboyr!
Rydyn ni i gyd yn gwybod po fwyaf y byddwch yn ei ddarllen, mwyaf tebygol y byddwch yn dod yn fwy rhugl. Felly er mwyn gwella llythrennedd ac ysgogi ac ymrwymo disgyblion i ddarllen, rydyn ni wedi prynu Kindles i ddisgyblion CA2 i ddarllen yn yr ysgol a gartref. | |
Llyfrau fel yr Horrid Henry, David Walliams a chyfres Roald Dahl yw rhai o’r llyfrau poblogaidd rydyn ni wedi eu lawrlwytho. | |
Lawrlwythir llyfrau yn ymwneud â’r cwricwlwm neu sy’n berthnasol i thema yn y dosbarth ac mae’r disgyblion yn benthyca’r Kindles yn eu tro. | |
Gall Kindles helpu i ddiwallu anghenion unigryw y disgyblion gyda ffontiau y gellir eu newid, gofodi llinellau, a’r geiriadur cyfeiriol lle gall disgyblion edrych am ystyr geiriau i ddatblygu eu geirfa. | |
Gobeithiwn y bydd y Kindles yn adeiladu ar sylfaen fydd yn datblygu cariad oes at ddarllen ac yn ymrwymo’r darllenydd mwyaf amharod trwy’r profiad darllen digidol effeithiol hwn. |