Ein Gorsaf Radio

Prynwyd ein gorsaf radio oddi wrth y darlledwr radio Marc Griffiths trwy Radio Cymru FM fel menter i wella llythrennedd a chyfathrebu gan ddefnyddio sgiliau iaith wrth ysgrifennu sgriptiau creadigol a hefyd ymchwilio a magu hyder wrth gyfweld a darlledu dros yr awyr! Mae’r disgyblion yn dysgu manteision gweithio fel rhan o dîm gyda chyfrifoldebau cynllunio a chyflwyno pob rhaglen.

Rydym ni’n gallu lanlwytho ein rhaglen orffenedig i Radio Cymru FM a gellir ei darlledu ar ddiwrnod ac amser o’n dewis ni.

Gan ein bod yn darlledu trwy Cymru FM, nid oes problem gennym ynghylch hawlfraint ac felly gallwn chwarae unrhyw gân yn ein rhaglen.


Rydym ni’n defnyddio rhaglen o’r enw ‘Audacity’ i olygu ein rhaglen ni.

Mae’r disgyblion yn mwynhau defnyddio’r rhaglen ac maen nhw’n hyderus wrth olygu a chynhyrchu’r rhaglen orffenedig i safon uchel cyn ei chyflwyno i Cymru FM.