Community Partnerships

Mae partneriaethau â’r gymuned yn hanfodol i ethos ein hysgol ni. Mae ein cysylltiadau â’r gymuned yn rhan annatod o fywyd yn Ysgol Penboyr. Rydyn ni’n gwerthfawrogi pa mor bwysig yw meithrin cysylltiadau cryf rhwng yr ysgol â’r gymuned. Mae gweithio gyda gwirfoddolwyr lleol yn bwysig i wella dysgu a phrofiadau disgyblion, ac mae hefyd yn cefnogi ein gwaith i gyflwyno’r cwricwlwm.

Mae gennym wirfoddolwyr o’r gymuned sy’n cefnogi’r ysgol drwy ddod i wrando ar ddisgyblion yn darllen.

Rydyn ni’n annog aelodau y gymuned i gymryd rhan ym mywyd yr ysgol drwy eu gwahodd i droi eu llaw at weithgareddau’r cwricwlwm, ac i gynorthwyo mewn digwyddiadau i godi arian a chyngherddau a gwasanaethau arbennig. Fel ysgol eglwys, rydyn ni’n ymfalchïo yn y gwasanaethau a gynhelir yn yr eglwys i’r gymuned o dan arweiniad ein disgyblion ni. Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaeth y Cristingl, y Pasg, y Cynhaeaf a’r Nadolig. Mae’r arian rydyn ni’n ei gasglu wrth gynnal ein gwasanaethau yn cael ei roi i elusennau lleol ac achosion da fel Plant Dewi neu’r Ambiwlans Awyr. Y llynedd, cafodd y casgliad ei ddefnyddio i helpu i sefydlu’r Ysgol Sul.

Rydyn ni’n rhoi cyfle i bob disgybl gymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol. Mae’r disgyblion yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau yn y pentref, o ganu yn lansiad y gymdeithas hanes i ddiddanu pobl yn y cartref i’r henoed a chanu mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn ddiweddar i ddadorchuddio plac yn y pentref. Rydyn ni’n teimlo bod y gweithgareddau hyn yn y gymuned yn sylfaenol bwysig i feithrin y cysylltiad rhwng y gymuned a’r ysgol ac maen nhw’n rhoi profiadau eang a chyffrous i’r disgyblion. 

Mae ymwelwyr o’r gymuned ac o’r ardal ehangach yn cael eu gwahodd i’r ysgol i siarad am eu profiadau. Mae cysylltiad rhwng yr ymweliadau hyn â’n pynciau cwricwlwm. Rydyn ni wedi mwynhau ymweliadau gan yr Esgob Wyn Evans, y bardd Ceri Wyn Jones, aelodau o’r gymdeithas hanes leol, cyn-beilot gyda British Airways, yr artist dawnus Helen Elliot, a’n hartist preswyl a llawer iawn mwy. Yn ogystal ag ymweliadau gan yr heddlu a’r gwasanaeth tân ac achub lleol, mae ein clwb garddio lleol hefyd wedi ein helpu ni gyda gardd yr ysgol ac rydyn ni hefyd wedi cael help i adeiladu ein tŷ gwydr sydd wedi’i ailgylchu.

Rydyn ni mor falch o’r cysylltiadau cryf sydd rhyngon ni â’r gymuned a hoffem feddwl am y gymuned fel rhan o deulu’r ysgol. Fel y dywed ein datganiad cenhadaeth:

‘Yn un teulu dysgwn gyda’n gilydd’