Trosglwyddo i Ysgol Uwchradd
Fel arfer bydd plant yn trosglwyddo i naill ai Ysgol Bro Teifi neu Ysgol Gyfun Emlyn ac mae cyswllt agos rhwng ein hysgol ni a’r ddwy ysgol uwchradd yma
Bydd rhieni plant Blwyddyn 6 yn derbyn gwybodaeth oddi wrth adran addysg Sir Gaerfyrddin ym mis Rhagfyr cyn trosglwyddo a bydd hawl gan rieni fynegi cais ar gyfer yr ysgol uwchradd o’u dewis trwy lenwi’r ffurflen briodol.