Urdd Gobaith Cymru
Mae Adran yr Urdd yn cyfarfod yn fisol ar ôl ysgol yn ystod Tymor y Nadolig. | |
Yn ystod Tymor y Gwanwyn, cynhelir ymarferion côr a dawnsio ar ôl ysgol ar gyfer cystadlaethau Eisteddfod yr Urdd. Mae’r côr a’r partion dawnsio yn cystadlu hefyd mewn Eisteddfodau lleol megis, Eisteddfod Castell Newydd Emlyn a Gwyl Fawr Aberteifi. | |
Mae disgyblion hynaf yr ysgol yn cael cyfleoedd i fynychu gwersylloedd yr Urdd– yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd a Llangrannog a chystadlu mewn chwaraeon. | |
Mae croeso i bob plentyn ymaelodi â’r Urdd. |