About Us

CROESO I YSGOL PENBOYR

‘Yn un teulu dysgwn gyda’n gilydd’

Croeso i wefan Ysgol Penboyr sy’n rhoi cipolwg ar fywyd ein hysgol. 

Mae Ysgol Penboyr yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru wedi ei lleoli ym mhentref Felindre ac mae’n rhan bwysig o’r gymuned.  

Yn Ysgol Penboyr rydyn ni’n anelu at gynnig amgylchedd dysgu lle anogir pob plentyn i ddatblygu eu personoliaethau yn unol ag egwyddorion Cristnogol. Wrth baratoi disgyblion ar gyfer byd oedolion, ein nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ddatblygu eu sgiliau deallusol, corfforol, personol, emosiynol a chymdeithasol yn llawn.

Mae Ysgol Penboyr yn ysgol hapus ac mae pob plentyn yn cael ei werthfawrogi a’i barchu. Rydyn ni’n falch o’r amgylchedd gofalgar a’r amrediad eang o brofiadau dysgu a ddarperir i’n disgyblion i gyd er mwyn iddyn nhw ddatblygu’n oedolion cyfrifol sy’n parchu ei gilydd, eu treftadaeth a’u hamgylchedd. 

Diolch am ymweld â’n gwefan a gobeithio ichi gael yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch am ein hysgol. Cliciwch ar y testun priodol o’r fwydlen ar ochr chwith y dudalen i lywio o gwmpas y safle.

Pennaeth

Dr Carol James

Adroddiad ESTYN 2015