Information

Datganiad Cenhadaeth yr ysgol:-

Yn un teulu dysgwn gyda’n gilydd

Nodau ac Amcanion yr Ysgol

Yn Ysgol Penboyr rydym yn ceisio darparu amgylchedd ddysgu lle mae pob plentyn yn cael ei annog i ddatblygu ei bersonoliaeth yn ôl egwyddorion Cristnogol.

Wrth baratoi disgyblion ar gyfer eu dyfodol ein nod yw:

darparu addysg ystyrlon mewn awyrgylch ddiddorol yn unol â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol,
rhoi’r cyfle i bob plentyn ddatblygu’n llawn eu sgiliau deallusol, corfforol, personol, emosiynol a chymdeithasol,
ennyn pob plentyn i barchu ei gyd-ddisgyblion, eiddo a’r amgylchfyd,
datblygu synnwyr o werthoedd moesol ac ymwybyddiaeth o ochr ysbrydol bywyd mewn amgylchedd Gristnogol,
galluogi pob plentyn i dyfu i gyfranogi’n llawn mewn cymdeithas lle defnyddir Cymraeg a Saesneg fel cyfrwng mynegiant.