Cymdeithas Rhieni a Ffrindiau (CRHFF)

Mae’r Gymdeithas Rhieni a Ffrindiau yn elusen a’i phwrpas yw cefnogi’r ysgol trwy godi arian. Cesglir yr arian gan grŵp teyrngar o rieni gweithgar a chefnogol sy’n cyfarfod yn yr ysgol i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau. Defnyddir yr arian i brynu adnoddau defnyddiol er budd y disgyblion a chefnogi gwaith yr ysgol.

Mae pob rhiant yn aelod awtomatig o’r CRhFf. Rydym yn croesawu aelodau newydd ac yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth ac unrhyw gynnig o arbenigedd.

Rydym ni’n ddiolchgar iawn i’r CRhFf am bob cymorth a chyfraniadau trwy gydol y flwyddyn. Mae eu gwaith caled o fudd mawr i’r disgyblion a maent yn cyfrannu at ysbryd cymunedol ein hysgol.

Hoffem ddiolch i’r CRhFf am eu cefnogaeth a’u hymroddiad parhaol.

Cysylltwch â’r ysgol os ydych yn dymuno helpu a byddwn yn trefnu ichi gysylltu ag aelodau’r CRhFf.