Llysgenhadon Chwaraeon

Cynllun Chwaraeon Cymru ydy’r Llysgenhadon Chwaraeon, cynllun cenedlaethol a sefydlwyd yn 2006. Mabwysiadwyd yng Nghymru yn 2009. Ymunodd Ysgol Penboyr â‘r cynllun yn 2011. 

Mae pob ysgol yn y cynllun yn dewis llysgenhadon o blant blwyddyn 6, fel arfer dau ond am y ddwy flynedd diwethaf rydym wedi dewis pedwar.

Mae’r plant yn mynychu cwrs sydd yn ysbrydoli a chynnig syniadau ar sut i hybu chwaraeon a bywyd iach. Mae nhw wedyn yn dod â’r wybodaeth yna yn ôl i’r ysgol ac yn rhedeg clybiau [o dan oruchwyliaeth] unwaith neu dwywaith yr wythnos yn ystod amser cinio i ddysgu sgiliau newydd i grwpiau o blant. 

Bwriad y cynllun ydy ‘ysbrydoli a galluogi pobl ifanc i ddod yn fodelau rôl ac yn arweinwyr mewn chwaraeon, drwy ddatblygu eu hyder a’u sgiliau i gynyddu cyfranogiad corfforol pobl eraill’.  

Gweler mwy
http://www.sportwales.org.uk/chwaraeon-cymunedol/addysg/llysgenhadon-ifanc/pwy-yw-llysgenhadon-ifanc.aspx?lang=cy&#sthash.5cJ1uxUn.dpuff