Cyngor
Ysgol Penboyr
Yn Ysgol Penboyr rydyn ni’n credu’n gryf mewn rhoi llais i’r disgyblion er mwyn iddyn nhw gyfranogi mewn gwneud penderfyniadau a fydd yn effeithio arnyn nhw.
Mae’r Cyngor Ysgol yn caniatáu i’r disgyblion drafod a chael dylanwad ar faterion yn ymwneud â’r ysgol, eu haddysg ac unrhyw fater sydd o bryder neu ddiddordeb iddyn nhw.
Erthygl 12
“yr hawl i fynegi eu barn ac i’r farn honno gael ei hystyried ar unrhyw fater neu amgylchiadau sy’n effeithio ar y plentyn.”